Diwrnodau Gwirfoddolwyr

Mae gan gymunedau ar draws Wrecsam wledig bellach y cyfle i ymgymryd â’r gwelliannau bach sydd ei angen ar eich adeiladau cymunedol gyda chefnogaeth Diwrnodau Gwirfoddolwyr drwy’r Rhwydwaith Adeiladau Cymunedol.

Bydd Diwrnodau Gwirfoddolwyr, gyda chymorth eich pwyllgor yn cael eu trefnu gan Cathryn, Swyddog Datblygu Adeiladau Cymunedol AVOW gyda’r bwriad o annog aelodau o’r gymuned i gymryd rhan mewn cynnal eich adeilad er mwyn cynorthwyo eich pwyllgor i wneud y gwelliannau hynny sydd fawr eu hangen.

Bydd Rhwydwaith Adeiladau Cymunedol yn darparu lluniaeth ar y diwrnod a bydd tystysgrif cyflawniad yn cael ei gyflwyno i bob gwirfoddolwr. Bydd angen i’r pwyllgor drefnu deunyddiau bydd eu hangen er enghraifft paent, planhigion ayyb gan aelodau o’r gymuned, busnesau lleol neu o gyllideb y pwyllgor.

Os oes diddordeb gan eich pwyllgor mewn cynnal Diwrnod Gwirfoddolwyr ac mae eich adeilad cymunedol wedi ei leoli mewn ward wledig cymwys, cysylltwch â Cathryn Williams Swyddog Datblygu Adeiladau Cymunedol AVOW ar 01978 317097 i nodi eich diddordeb ac i dderbyn rhagor o wybodaeth.