Cyngor Cyllido
Gwasanaeth Cyngor Cyllido
Mae gwasanaeth cyngor cyllid wedi ei deilwra ar gyfer elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a mentrau cymdeithasol sy’n gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Cysylltwch â ni gyda manylion am eich anghenion cyllido, a byddwn yn:
- Cymorth i adnabod cronfeydd arian posib, ac i ddarparu’r wybodaeth rydych ei angen i ymgeisio.
- Cyfeirio at gyllidwyr priodol. Mae gennym hefyd gysylltiadau a rhai cyllidwyr lleol a chenedlaethol.
- Mynediad at adnoddau gan gynnwys cronfa ddata cyfrifiadurol megis Grantfinder a Funderfinder.
Gellir darparu cefnogaeth ar sail un i un fel bydd ei angen. Cysylltwch â Heather Hicks, Swyddog Cyngor Cyllid ar 01978 312556, neu heather.hicks@avow.org
Cymorthfeydd & Digwyddiadau
Cynhalir cymorthfeydd a digwyddiadau ar gyfnodau drwy’r sir er hwylustod i chi. Mae digwyddiadau ar y gweill yn cynnwys:
- Cwrs - Grantiau - 'Fit for Funding' am adeiladau cymunedol - Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2010
Er mwyn gwneud apwyntiad, ffoniwch Heather Hicks, neu Lisa Jones ar 01978 312556
Bwletin Cyllido Misol AVOW
Mae AVOW yn cynhyrchu newyddlen yn arbennig ar gyllido, i’ch cynorthwyo i wybod am y cyfleoedd cyllido diweddaraf. Mae Bwletin Cyllido misol AVOW yn cynnwys y newyddion cyllido diweddaraf ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol, a grwpiau gwirfoddol a chymunedol nad ydynt yn gwneud elw yn Sir Wrecsam. Cyhoeddir y newyddlen drwy e-bost. Dylai unrhyw un sy’n dymuno derbyn y newyddlen neu os nad ydynt am ei dderbyn rhagor gysylltu â Heather Hicks, Swyddog Cyngor Cyllid AVOW ar heather.hicks@avow.org. Mae’r newyddlen ddiweddaraf ar gael iw lawr lwytho rhad am ddim yma:
Bwletin Cyllido AVOW



