Hyfforddiant
Mae AVOW yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi wedi’u hanelu at helpu grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyrraedd eu llawn botensial.
Mae’r cyrsiau yn gyfle i aelodau cymunedol ddysgu sgiliau newydd mewn awyrgylch cefnogol ac i rwydweithio â chyfranogwyr o grwpiau cymunedol sy’n gweithredu yn Wrecsam a’r siroedd cyfagos.
Os oes gan eich grŵp cymunedol anghenion hyfforddi nad ydynt wedi’u hysbysebu ar hyn o bryd, yna rhowch wybod i Cathryn Williams, Swyddog Datblygu Cymunedol ar 01978 317098. Efallai na fyddem yn gallu cynnig pob cais am gwrs, er hynny fe wnawn ein gorau i gyfeirio grwpiau i gyrsiau presennol yn yr ardal.
Rhedwyd y cwrs "Grants Fit for Funding" yn ddiweddar, a bu adborth ardderchog oddi wrth y cyfranogwyr.
Cafwyd llawer o wybodaeth a dylai gwneud cais am gyllid yn y dyfodol fod yn haws rwan wedi gwneud y Cwrs yma."
"Gwerthfawr iawn. Mi wnaethoch bwnc anodd swnio’n llawer haws a mwy cyraeddadwy – diolch."
"Rwyf wedi dysgu cymaint roedd o werth yr amser a dreuliwyd. Dim ond angen gweithredu'r hyn a ddysgwyd rwan. "
Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle: Wedi ei gyflwyno’n dda - gwnaed bwnc nad yw’n arbennig o ddifyr yn haws o lawer ymwneud ag ef
Cymryd Cofnodion: Mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych newydd ddechrau cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd
Mi wnes i fwynhau’r cwrs a’r gweithgareddau wnaethom ni fel unigolion ac fel grŵp



