Datblygu Cymunedol

Mae’r Tîm Datblygu Cymunedol yn AVOW yma i ddarparu gwybodaeth a chyngor a chefnogaeth gyfoes i fudiadau gwirfoddol a chymunedol o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Er enghraifft:

· Sefydlu mudiad gwirfoddol/cymunedol

· Gweithdrefnau a Pholisïau

· Cyfraith Elusennol a Chofrestru

· Gwybodaeth cyllido

· Deddfwriaeth gyfredol a newydd

· Rheolaeth a Datblygiad Prosiect

· Hyfforddiant a Dysgu

· Materion Rheolaeth

· Rhedeg adeilad cymunedol / Rhwydwaith Adeiladau Cymunedol

· Trefnu digwyddiadau

· Economi/Menter Gymunedol

· Gwneud eich mudiad yn gynhaliol

· Cyfleoedd rhwydweithio

Mewn gwirionedd, cefnogaeth a chyngor ar unrhyw agwedd o redeg mudiad gwirfoddol a chymunedol.

Os hoffech wybod mwy am sut gall yr adran gefnogi eich mudiad cysylltwch â AVOW ar 01978 312556.