Plant Mewn Agen - 'Sesiwn Ariannu'
10 Chwef 2010
"Sesiwn Ariannu"
Dydd Mercher 10fed Chwefror 2010
Ty Avow, Wrexham
AVOW yn falch o ddatgan fod sesiynau ariannu wedi eu trefnu mewn cydweithrediad â Phlant Mewn Angen y BBC. Mae cyfle i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc fynychu’r rhaglen ariannu hynod boblogaidd yma. Bydd grwpiau sy’n gwasanaethu Wrecsam Cyngor Bwrdeistref yn gallu gwneud cais am sesiwn hanner awr gydag Andrea Powell, swyddog grantiau Plant mewn Angen i drafod cymhwyster a photensial cais. Dylai grwpiau sy’n dymuno ymgeisio gysylltu Marion Kelsall â AVOW ar 01978 312556 neu ebostiwch marion.kelsall@avow.org ar gyfer mynychu.
I wneud cais am sesiwn anfonwch amlinelliad o’ch cais (dim mwy na dwy ochr A4), gydag e-bost yn ddelfrydol, at marion.kelsall@avow.org.Fel arall gallwch ei bostio at AVOW, 21 Egerton Street, Wrexham, Ll11 1ND. Mae llefydd yn brin a gwneir apwyntiadau ar sail y cyntaf i’r felin, felly i sicrhau lle cyflwynwch amlinelliad o’ch cynnig mor fuan â phosib.
Mae Plant Mewn Angen yn cefnogi grwpiau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais sy’n 18 oed neu’n iau ac sy’n byw ym Mhrydain – (gall grwpiau sydd hefyd yn gweithio gyda phobl 19 oed neu hŷn ymgeisio’n ogystal cyn belled â bod y rhan fwyaf o’u buddiolwyr yn 18 oed neu’n iau.) Mae plant a phobl ifanc dan anfantais yn cynnwys y rheini sydd wedi’u heffeithio gan: salwch, trallod, camdriniaeth neu esgeulustod, anabledd, nam ymddygiad neu seicolegol neu sy’n byw mewn tlodi neu amddifadedd.
Gellir dyfarnu grantiau am hyd at dair blynedd ar y tro. Fodd bynnag, dim ond grantiau blwyddyn sydd ar gael ar gyfer gwyliau a phreswylfeydd.
I fod o gymorth ichi wirio os ydych chi’n gymwys i ymgeisio am arian darllenwch y canlynol yn ofalus:
- rhaid i ymgeiswyr fod yn grŵp cyfansoddiadol di elw gyda chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gydag o leiaf ddau lofnodwr siec nad ydynt yn perthyn i’w gilydd
- rhaid i ymgeiswyr gael polisi amddiffyn plant ysgrifenedig
- rhaid i ymgeiswyr gael yswiriant perthnasol a digonol
Fel gyda nifer o gyllidwyr mae gan Blant Mewn Angen restr o waith na fydd yn ei ariannu: teithiau neu brosiectau dramor, triniaeth/ymchwil feddygol, gwariant heb ei ddynodi, ariannu diffyg neu ad-dalu benthyciadau, ariannu ôl-weithredol, prosiectau na fedr ddechrau o fewn 12 mis i’r dyddiad dyfarnu, dosbarthu i fudiadau eraill, ceisiadau cyffredinol a chronfeydd gwaddol, prosiectau haf y ceisiwyd amdanynt yng nghyfnod ymgeisio Mawrth, gweithgareddau corff statudol, hyrwyddo crefydd, grwpiau sydd eisoes ag arian wedi’i ddyfarnu iddynt neu grwpiau sydd dal heb anfon adroddiad diwedd prosiect.



