Ymgynghoriadau

Talu am Ofal: creu system deg ac addas

Ymgynghoriad gan Lywodraeth y Cynulliad cyn y Papur Gwyrdd

Rhychwant yr ymgynghoriad

Mae effaith poblogaeth sy’n heneiddio yn arwain at Lywodraethau ar draws y byd i ystyried sut dylid trefnu a chyllido gwasanaethau gofal a chefnogaeth yn y dyfodol. Mae’r broses newid a gychwynnodd gyda chyhoeddi Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol yn parhau gyda’r ymgynghoriad hwn, sy’n gosod y sail ar gyfer sut ariannir gofal a chefnogaeth. Mae’r ymgynghoriad yn ymdrin â

· Gofal parhaol

· Gofal nyrsio wedi ei ariannu gan y GIG

· Gofal preswyl

· Gofal cartref a gwasanaethau cefnogol

Mae’r ymgynghoriad rhedeg ochr yn ochr â’r un yn Lloegr ac yn cymryd i ystyriaeth materion o’r drefn Budd-daliadau nad ydynt wedi datganoli.

Pwy sy’n derbyn gofal yng Nghymru ar hyn o bryd?

Mae gwasanaethau cefnogol yng Nghymru yn cefnogi 150,000 o bobl ac yn cyfri am £1.3bn o arian cyhoeddus. Mae mwy nag 70,000 o bobl wedi eu cyflogi gan fwy nag 1,800 o sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae gwasanaethau gofal a chefnogaeth yn:

· Hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ac annibyniaeth

· Cefnogi pobl mewn cyfnodau anodd, trallod, gwendid neu salwch ac

· Amddiffyn pobl rhag niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Gall unrhyw un fod angen gwasanaethau gofal neu gefnogaeth ar ryw bwynt yn eu bywydau, ond mae defnyddwyr gwasanaethau yn debygol o:

· Pobl sydd wedi cael damwain

· Pobl sydd â salwch hir dymor

· Pobl anabl

· Pobl hŷn.

Pam bod angen i ni newid y drefn

Mae’r angen am wasanaethau gofal a chefnogaeth oherwydd oedran neu anabledd yn realiti fydd yn wynebu'r mwyafrif o deuluoedd ar ryw adeg. Mae tystiolaeth ‘Kings Fund’ (2006) yn dangos bod y drefn yn wynebu’r heriau canlynol:

· Newid demograffeg - bydd mwy o bobl yn byw yn hirach ond gydag afiechyd neu salwch am gyfnodau hirach,

· Cynyddu disgwyliadau ansawdd y gwasanaeth,

· Newid patrymau strwythurau cymdeithasol - teuluoedd mwy gwasgaredig, nifer cynyddol o bobl sengl, perthnasoedd amrywiol - a chyflogaeth - llai o yrfaoedd ar gael,

· Amrywiaeth o dechnoleg newydd,

· Diffyg cyllido o £6bn rhwng costau ac adnoddau erbyn 2029.


Beth arall sy’n newid mewn polisi gofal ar y funud?

Mae Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol yn pwysleisio’r angen am wasanaethau sy’n atal colli annibyniaeth ac o safon uchel ar draws Cymru. Mae’r strategaeth yn gosod ystod o amcanion i wella safonau. Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru yn gosod ystod o fesurau i gefnogi gofalwyr yn eu rôl gofalu ac i ddiogelu eu hiechyd a lles eu hunain. Bydd canllawiau newydd ar wneud penderfyniadau mewn perthynas â chymhwysedd am Ofal Parhaol, a threfniadau newydd i gefnogi hyn. Darparir cydnabyddiaeth o bwysigrwydd argaeledd cartrefi a gwasanaethau cefnogol o safon uchel drwy ddatblygiad Strategaeth Cartrefi i Bobl Hŷn Llywodraeth y Cynulliad. Bydd gan Gynlluniau Cartrefi Gofal Ychwanegol swyddogaeth bwysig. Gall Grantiau Cyfleusterau Anabl a Rhaglenni Newidiadau Brys ynghyd ag asiantaethau Gofal a Thrwsio galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain. Mae gwasanaethau Cefnogi Pobl yn darparu cefnogaeth i bobl sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol ac i gadw eu tenantiaeth. Mae’r gefnogaeth er mwyn atal neu oedi gwasanaethau cefnogol costus megis gwasanaethau preswyl neu nyrsio. Gall cynlluniau Rhyddhau Ecwiti ddarparu cyllid ar gyfer addasiadau neu wasanaethau gofal a chefnogi. Mae Taliadau Uniongyrchol yn cynnig mwy o hyblygrwydd i gwrdd â’u hanghenion asesedig i unigolion. Mae cyllid Llywodraeth y Cynulliad yn galluogi Awdurdodau Lleol i ddarparu cynlluniau Cefnogaeth Taliadau Uniongyrchol. .

Sut mae’r drefn bresennol yn gweithio?

Os yw rhywun yn dangos eu bod angen gofal, bydd awdurdodau lleol yn asesu eu hanghenion yn unol ag arweiniad Llywodraeth y Cynulliad "Creu trefn unedig a teg o asesu a rheoli gofal". Dylai’r asesiad adnabod anghenion a sut dylid cwrdd â nhw.

· Gofal Iechyd Parhaus - gofal iechyd hir dymor a ddarparir pan ddyfarnir bod anghenion person i fod yn sylweddol, cymhleth, llym neu’n anrhagweladwy. Darparai’r GIG cost lawn y gofal hwn.

· Gofal Nyrsio - Os nad yw berson yn gymwys am Ofal Iechyd Parhaus ond parhau i fod ag angen gofal gan Nyrs Cofrestredig mewn cartref gofal, bydd y GIG yn darparu £117 y wythnos tuag at y costau. Disgrifir asesiad o agweddau eraill o ofal a llety pobl yn y paragraffau canlynol.

· Gofal Preswyl - Ar gyfer gofal preswyl hir dymor lleol disgwylir i awdurdodau lleol godi tâl (polisi sydd wedi bod mewn lle am 60 mlynedd) am ofal personol. Cynhelir asesiad o allu i dalu - gan gymryd i ystyriaeth eu hincwm a chyfalaf.

· Dewis - disgwylir i awdurdodau lleol gynnig dewis. Os yw person yn dewis lleoliad mwy drud nag fyddai’n cael ei ariannu fel arfer rhaid i drydydd barti (fel arfer aelod o’r teulu) gytuno i dalu’r arian ychwanegol.

· Taliadau gohiriedig - bydd eiddo a berchnogir gan y person ble nad yw priod neu berthynas sy’n dibynnu yn byw yn ffurfio rhan o’r asesiad o’r gallu i dalu. Eithrir eiddo ar gyfer y 12 wythnos gyntaf. Wedi’r 12 wythnos gellir cynnig taliad gohiriedig ble nad yw person yn dymuno neu ddim yn gallu gwerthu’r eiddo. Unwaith gwerthir yr eiddo (ddim o reidrwydd yn ystod bywyd y person) gall yr awdurdod lleol casglu cost y gofal.

· Treuliau Personol - gall preswylwyr cartrefi gofal a ariannir gan awdurdodau lleol (y rhan fwyaf o’u hincwm yn cael ei wario ar gostau gofal) gadw £21.38 y wythnos ar gyfer treuliau megis dillad, anrhegion neu drinwyr gwallt ayyb.

· Gofal Cartref a Gwasanaeth Cefnogol - Mae’r gyfundrefn talu yn wahanol i ofal preswyl yn y ffaith nad oes arweiniad cenedlaethol, ar wahân i’r angen bod pobl ar incwm isel wedi eu gwarchod i raddau. Mae’r awdurdod lleol yn penderfynu eu polisi eu hunain a rhaid i bobl sy’n derbyn cywerth a Chymhorthdal Incwm a 35% yn ychwanegol gyda 10% yn cael ei ddiystyru o’r asesiad i adnabod y costau ychwanegol a gysylltir â byw â chyflwr iechyd neu anabledd. Amrywia uchafswm taliadau wythnosol ar draws Cymru o £16 i £180 y wythnos.

· Budd-daliadau - Mae Llywodraeth y DU yn darparu budd-daliadau megis Lwfans Mynychu, Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gofalwyr.

Pwy sy’n talu am y gofal ar hyn o bryd?

· Unigolion - gallant dalu am eu gofal drwy gynilion, rhyddhau ecwiti, buddsoddiadau cyfranddaliadau neu yswiriant preifat. Gall y llywodraeth ddarparu anogaeth i bobl gynllunio ar gyfer costau gofal.

· Teuluoedd - darparu symiau sylweddol o ofal di-dâl a gwneud cyfraniadau drwy ychwanegiadau trydydd parti.

· Llywodraeth - ariannir tua 70% o ofal ffurfiol yn rhannol neu’n llawn gan y Llywodraeth, a darparir cefnogaeth drwy’r drefn budd-daliadau a ariannir gan y trethdalwr.



Beth yw’r cwestiynau i’w dadlau?

Rhannu cyfrifoldeb talu am ofal:

Pwy ddylai gyfrannu mwy am ofal yn y dyfodol - Unigolion, Teuluoedd neu Bawb mewn Cymdeithas?

· Pam ddylai pawb dalu mwy?

· Pa bobl hyn fydd yn eithriedig?

· A fydd pobl iau yn eithriedig?

· Beth am bobl nad ydynt yn gweithio neu ddim yn gallu gweithio?

· Beth am bobl nad ydynt yn berchen ar eu cartrefi eu hunain?

· Beth am rôl eich cyflogwr?

· Beth am rôl mudiadau gwirfoddol?

Os yw’r drefn bresennol yn cael ei ddiwygio, ym mha gyfeiriad cyffredinol dylid gwneud newidiadau?

· Tuag at fodel o yswiriant?

· Symleiddio’r trefniadau presennol i’w gwneud yn fwy cyson a teg?

· Tuag at fodel o gyfraniad preifat uwch?

· Cyfuniad o’r uchod?

Gosod rheolau teg ar gefnogaeth ariannol yn y dyfodol.

· Llywodraeth Genedlaethol neu leol yn penderfynu ar hawl?

· Trefniadau gwahanol ar gyfer anghenion gwahanol?

· Mwy o gefnogaeth i bobl ag incwm isel ac ychydig o asedau?

Mwy o wybodaeth

www.taluamofalyngnghymru.net

Mae ystod o weithgareddau budd-ddeiliaid wedi eu trefnu ar draws Cymru, gyda gwahoddiadau wedi eu hanfon at gynrychiolwyr allweddol o fewn pob sir. Bydd digwyddiadau wedi eu trefnu’n lleol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael ei gynnal yn Wrecsam - cysylltwch â Janet Williams (AVOW) am ragor o wybodaeth. Os hoffech i’r sylwadau gael eu cynnwys mewn ymateb y sector wirfoddol leol anfonwch nhw at Janet Williams.

Dyddiad cau - 28ain Chwefror 2009

Cafodd "Ar Draws Ffiniau" (Adolygiad Beecham), archwiliad manwl o’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dosbarthu yng Nghymru ei gyhoeddi yn 2006. Pwysleisiodd yr Adolygiad yr angen am y GIG a llywodraeth leol i weithio mewn partneriaeth i ddosbarthu gwasanaethau yn effeithiol ac i osod cyfeiriad gwasanaethau yng Nghymru i’r dyfodol. Mae Cymru wedi mabwysiadu "Model Dinesydd" yn hytrach nag "Model Cwsmer" a fabwysiadwyd yn Lloegr. Mewn Model Cwsmer gwellir gwasanaethau o ganlyniad i ddinasyddion yn mynegi anfodlonrwydd â gwasanaethau drwy beidio â’u defnyddio, tra mewn model dinesydd gwneir newidiadau o ganlyniad i sylwadau gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Yn enwedig o fewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol mae symud tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaethau ble mae symudiad deinamig o ble roedd dosbarthu gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei arwain gan bobl broffesiynol a rheolwyr, at sefyllfa ble mae cymunedau a defnyddwyr yn cyd-gynhyrchu adnoddau a gweithgareddau sy’n elwa ac sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas.

Mae hyn yn gosod her i sefydliadau’r sector statudol, ond mae cyfranogiad dinasyddion bellach wedi ei ymgorffori mewn polisi ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru ac felly dylai fod y grym arweiniol ar gyfer gwella gwasanaethau’n lleol ac yn genedlaethol.

Mae cyfrannu at fentrau sy’n arwain at gynllunio gwasanaethau yn weithgaredd werth ei wneud ar gyfer y trydydd sector, ac yn cynnig cyfle i ddylanwadu canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth. Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol fod yn gwndid defnyddiol i alluogi pobl i wneud eu dymuniadau a theimladau’n wybyddus. Ar gyfer prif ymgynghoriadau ar bolisi a datblygiad sy’n effeithio ar waith y sector yn lleol, bydd AVOW yn gyffredinol yn paratoi ymateb ar ran y sector wirfoddol, yn dilyn trafodaethau â’r Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) a’r Fforwm Mudiadau sy’n Gweithio â Phlant a Phobl Ifanc. Serch hynny anogir mudiadau i ymateb yn uniongyrchol o’u safbwynt nhw o wybodaeth arbenigol a phrofiad, ac os yn bosib cynnwys AVOW yn yr ymateb er mwyn ein cadw’n wybodus o farn y sector yn lleol.