Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion
Mae AVOW yn hwyluso Fforwm ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol sy’n gweithio’n bennaf gydag oedolion o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r Fforwm yn sicrhau bod gan y sector wirfoddol gyfle i chwarae rhan lawn mewn cynllunio, datblygiad ac adolygiad gwasanaethau a pholisïau yn lleol, mewn perthynas â materion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Fforwm hefyd yn darparu cyfle i fudiadau gwirfoddol i rannu a chyfnewid gwybodaeth.
Os hoffech dderbyn papurau neu i fynychu’r cyfarfodydd bob deufis cysylltwch â:
Julie Cooper
Swyddog Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ffôn: 01978 317089
Ebost: julie.cooper@avow.org



