Digwyddiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

CHWEFROR 2009

BORE CREMPOG

Bydd Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal Bore Crempog yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ar ddydd Mercher 25ain Chwefror o 10:00yb tan 12:00.

Dymunwn wahodd unrhyw rai fyddai â diddordeb mewn dod yn wirfoddolwr gyda’n mudiad.

Mae ein gwirfoddolwyr yn cynorthwyo i gefnogi Pobl Hŷn mewn amryw o ffyrdd o gyfeillio i gynorthwyo gyda siopa a thrafnidiaeth.

Bydd hyn yn gyfle i ganfod mwy am wirfoddoli gyda ni ac yn gyfle i gwrdd â’n tîm a rhai o’r Bobl Hŷn rydym yn eu cefnogi mewn awyrgylch hamddenol.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r crempogau!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â

Karen Crane ar 08450 549822

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

MAWRTH 2009

Cefnogaeth Tenantiaeth Wrecsam

Ydych angen cymorth mewn cadw tenantiaeth? - Efallai y gallwn eich cynorthwyo.

Hoffai Cefnogaeth Tenantiaeth Wrecsam eich gwahodd i ddigwyddiad ymgynghorol yn:

Canolfan Byddin yr Iachawdwriaeth

Garden Road, Rhosddu Wrecsam

Dydd Mawrth 17teg Mawrth 09

11yb Tan 2yp .

Gyda chinio bwffe, trafnidiaeth rad ac am ddim a rhai gwobrau.

Hoffai ein gwasanaeth cyfrinachol sylwadau ac awgrymiadau er mwyn gwella’r gwasanaeth rŵan ac i’r dyfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Deborah Molony ar 01978 315439

~~~~~~~~~~~~~~~