Y Newyddion Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Diweddaraf

Dwyieithrwydd, cynlluniau iaith, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a marchnata?

A yw’ch mudiad cymunedol chi angen cymorth gyda’r unrhyw un o’r rhain? Os oes, yna mae cymorth wrth law! Mae Estyn Llaw newydd gyrraedd gogledd Cymru, gyda Mari Wiliam wedi’i hapwyntio fel y swyddog maes cyntaf i’r gogledd, wedi ei lleoli yn Llanelwy.

Rhywfaint o hanes: mae Estyn Llaw wedi bod yn weithredol yn bennaf yn ne Cymru ers 2000, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy law Bwrdd yr Iaith. Gall Estyn Llaw roi cyngor am ddim i’ch mudiad chi gyda datblygu deunyddiau dwyieithog a chynlluniau iaith, mi wnaiff eich cynorthwyo i ganfod gwirfoddolwyr cyfrwng Cymraeg, a threfnu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar eich cyfer. Gall delwedd mwy dwyieithog yn aml roi hwb i fudiad gyda chodi arian, a’ch helpu i roi gwell gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg, yn arbennig yn y sectorau gofal ac iechyd.

Croeso i unrhyw fudiad e-bostio Mari ar mari.wiliam@iaith.eu (un ‘l’ sydd yn y ‘Wiliam’, rhag ofn i’ch e-bost gael ei ddychwelyd!), neu ffoniwch 01745 585120/ 07966 936263. Plis hefyd ymwelwch â’n gwefan www.estynllaw.org. ‘Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio efo’r trydydd sector yng ngogledd Cymru!

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Addunedau Blwyddyn Newydd

Dydy hi ddim yn rhy hwyr ar gyfer gwneud yr Adduned Blwyddyn Newydd!

Os hoffech wneud gwahaniaeth i’ch bywyd eich hun neu fywyd y rhai hynny o’ch cwmpas, yna ymgeisiwch i ddod yn wirfoddolwr gyda Family Friends nawr.

Byddwch yn treulio dwy neu dair awr gyda theulu o Wrecsam sy’n dioddef rhyw fath o straen, ac sydd gyda phlant rhwng 5 a 11. Gall hyn olygu cynnig cymorth ymarferol megis cymryd plentyn allan am seibiant ac ymwneud â gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys mynd i’r llyfrgell neu ymweld â pharc gwledig, neu gynnig cefnogaeth emosiynol.

Rydym yn darparu sesiwn hyfforddiant 40 awr cyn i chi gwrdd â’r teulu ac yn talu unrhyw dreuliau, a’r cyfle i gwrdd â chymdeithasu â gwirfoddolwyr eraill.

Mae sylwadau gan rieni sydd wedi derbyn cymorth gan wirfoddolwyr yn cynnwys:

"Maent wedi bod yn gefnogaeth a chymorth mawr, ac rwy’n teimlo ein bod wedi gwneud rhai ffrindiau da."

"Mae fy ngwirfoddolwr yn siarad hefo fi fel ffrind, nid dim ond fel cymhorthydd - mai’n wych"

Mae Family Friends wedi bod yn cynorthwyo teuluoedd Wrecsam am dros 11 mlynedd ac rydym angen gwirfoddolwyr ymrwymedig - os oes gennych sgiliau magu plant ac yn gallu bod yn ffrind i deulu o Wrecsam sydd o dan straen am ddwy neu dair awr y wythnos, cysylltwch â ni ar 01978 366115 neu anfon e-bost at www.family-friends.co.uk <http://www.family-friends.co.uk/> am ragor o wybodaeth am ein cwrs hyfforddiant.
Mae Family Friends yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gweithiwr Gwybodaeth a Chefnogol Cymdeithas Clefyd Parkinson

Os oes gennych chi neu aelod o’ch teulu Parkinson’s, efallai bydd angen cefnogaeth un i un arnoch i’ch cynorthwyo i ddelio a’r cyflwr.

Gall eich Gweithiwr Gwybodaeth a Chefnogaeth ddarparu:

· y wybodaeth ddiweddaraf ar Parkinson’s

· cefnogaeth emosiynol i chi a’ch teulu

· gwybodaeth am fudd-daliadau a chymorth gyda’r broses ymgeisio

· gwybodaeth a chysylltiadau â gwasanaethau lleol

· llais cefnogol os ydych angen cwyno neu os oes gennych broblem gyda derbyn asesiad o’ch anghenion

· cysylltiadau â gwasanaethau Cymdeithas Clefyd Parkinson, megis ein llinell gymorth, gwefan, adnoddau gwybodaeth, a changhennau a grwpiau cefnogol lleol

Eich cyswllt lleol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru:

Sara Owen

Ffôn: 0844 225 3719

E-bost: sowen@parkinsons.org.uk <mailto:sowen@parkinsons.org.uk>

MAE’R GWASANAETH HWN YN RHAD AC AM DDIM AC YN GYFRINACHOL

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Lansiad Gwefan E-Ddiogelwch i amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio gwefan newydd i hyrwyddo canllawiau ar ddefnydd diogel a phositif o’r we yn dilyn cynnydd yn y defnydd ohono gan blant a phobl ifanc yn y blynyddoedd diwethaf. Ceisia’r wefan addysgu pawb o Benaethiaid i AALl a chynorthwywyr cefnogaeth dosbarth ar y ffordd gorau i ddefnyddio’r cyfoeth o wybodaeth gall y rhyngrwyd ei gynnig. Ceir rhagor o wybodaeth ar:

<http://esafety.ngfl-cymru.org.uk/>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Mae Cymorth Wrth Law: adnodd i bobl sy’n galaru yn dilyn hunanladdiad neu farwolaeth, sydyn, trawmatig arall

Anelir y canllaw at yr ystod eang o bobl â chant eu heffeithio gan hunanladdiad neu farwolaeth sydyn, drawmatig arall. Caiff ei anelu’n gyntaf i gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef colled annisgwyl o’r fath. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar ofal iechyd a phobl broffesiynol eraill sy’n dod mewn cysylltiad â phobl sy’n galaru, i’w cynorthwyo wrth ddarparu cymorth ac awgrymu sut gallant ddod o hyd i gefnogaeth os byddant ei angen. Gellir dod o hyd iddo ar:

<http://www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/PublicationsPolicyAndGuidance/DH_087031>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Cyfranogi plant a phobl ifanc er mwyn gwella gwasanaethau gofal iechyd

Cronfa feddalwedd prototeip sy’n cynnwys arweiniad, DVD, poster a chanllaw dysgu i gynorthwyo’r GIG ac ysgolion i weithio â phlant a phobl ifanc wrth wella gwasanaethau gofal iechyd lleol. Cafodd ei ddatblygu gyda phlant a phobl ifanc mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid cenedlaethol ac athrawon sy’n ymwneud â chyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: cyp@institute.nhs.uk <mailto:cyp@institute.nhs.uk>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwybodaeth i law i’r rhai hynny sy’n meddwl symud i mewn i gartref gofal newydd

Mae canllaw newydd Llywodraeth y Cynulliad "Meddwl am Gartref Gofal? - Arweiniad i’r sydd angen i chi ei wybod" yn gosod mewn termau clir y camau allweddol a’r materion bydd rhywun yn ei wynebu yn y sefyllfa hon. Mae’n tanlinellu’r opsiynau gofal bydd angen i unigolion a theuluoedd ei ystyried cyn gwneud penderfyniad i symud i mewn i gartref gofal. Mae’r canllawiau yn cael ei dosbarthu drwy adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, mudiadau iechyd, ysbytai ac amryw o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Neu gellir ei lawr lwytho o:

<http://new.wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/guidance/2008/carehome/?skip=1&lang=cy>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Grŵp Cefnogaeth Drawsrywiol

Sefydlwyd y grŵp cefnogol hwn i:

· Cynorthwyo pob person Trawsrywiol i ddod yn rhan o gymdeithas gynhwysol

· i addysgu a darparu gwybodaeth i ddiddymu rhwystrau

· i alluogi a rhoi grym i bobl Drawsrywiol.

Mae gan y grŵp hefyd siaradwyr sydd â phrofiadau uniongyrchol ar wybodaeth brofiadol o Drawsrywiaeth sydd ar gael ar gyfer cyflwyniadau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Joanne (Ysgrifenyddes)

Jobelle63@hotmail.co.uk <mailto:Jobelle63@hotmail.co.uk>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Straeon Cleifion - Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Bydd yr adnodd newydd hwn yn galluogi pobl i ymweld â’r wefan ac i ddweud am eu profiadau o wasanaethau a chaiff eu darparu a hefyd i ddarllen am brofiadau pobl eraill. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystyried straeon cleifion fel y modd gorau i weld y gwasanaethau ac maent yn ei ddarparu drwy lygaid y cleifion, gan felly ein galluogi i sicrhau mae’r claf yw’r canolbwynt i ddatblygiad a gwelliant gwasanaethau.

<http://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?pageId=146&lan=cy>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Newyddion gan Ofal Galar Cruse

Mae gan Ofal Galar Cruse angen swyddfa fechan / safle desg i weithio ohono yn ardal Wrecsam - cysylltwch â’r Swyddog Datblygu ar 07986 599330 os gallwch, neu os ydych yn ymwybodol am rywun a allai fod o gymorth.

Rydym hefyd yn cynnal ein cwrs sylfaen achrededig 48 awr mewn sgiliau cwnsela galar ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam gan gychwyn yn y flwyddyn newydd. Cysylltwch â’n Gweinydd ar: 08445 617 856 neu e-bostiwch: crusenorthwales@btconnect.com <mailto:crusenorthwales@btconnect.com> i gofrestru eich diddordeb ac i dderbyn rhagor o wybodaeth.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Datganiad Gweinidog ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Gymru

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn cyflwyno’r papur gan yr Athro Michael Williams, a ragwelodd y byddai un corff unigol ar gyfer iechyd meddwl yn darparu’r gwasanaeth ar draws Cymru. Roedd y Gweinidog wedi penderfynu peidio sefydlu sefydliad iechyd meddwl ar wahân i Gymru ond wedi penderfynu y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn dod yn rhan o’r cyrff GIG lleol integredig.

I ddarllen y datganiad llawn cerwch i:

<http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2008/mentalhealth/?skip=1&lang=cy>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Datganiad y Gweinidog ar Aildrefnu’r GIG

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’r datblygiadau wedi eu diweddaru mewn perthynas â’r ailstrwythuro GIG a chafodd ei gynnal yn gynharach yn y flwyddyn.

Gellir darllen y datganiad yn:

<http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2008/nhsreorg/?skip=1&lang=cy>~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Cymunedau’n Gyntaf - Rhannu Arfer Da

Mae canllaw Arfer Dda wedi ei lansio gan ddangos esiamplau o waith da sy’n cael ei wneud gan bartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf ar draws Cymru. Y bwriad yw dangos yr ystod eang o weithredu sydd wedi ei hwyluso o ganlyniad i’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf ac i ddathlu’r hyn sydd wedi ei gyflawni. Gellir lawr lwytho’r canllaw o:

http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/publications/making/?skip=1&lang=cy

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Canllaw Dechrau’n Deg i Bobl Broffesiynol

Mae’r canllaw newydd hwn yn rhoi amlinelliad o wasanaethau Dechrau’n Deg sydd ar gael a ble cânt eu cynnal. Er mwyn derbyn copi cysylltwch â:

Rebecca Heyward-Jones, Swyddog Datblygu Dechrau’n Deg ar 01978 317678.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru

Mae’r uned wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar Asesu’r Effaith ar Iechyd o’r Adolygiad Cyntaf o’r Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol. Mae hwn yn asesiad strategol cynhwysfawr a bydd yn rhoi gwybod i Lywodraeth y Cynulliad am effaith ar iechyd a lles opsiynau rheolaeth gwastraff posib.

Mae hefyd nifer o adroddiadau eraill gan gynnwys asesiad ar y strategaeth a chaiff ei ffafrio gan y Cynllun Datblygu Lleol yn Wrecsam.

www.whiasu.wales.nhs.uk <http://www.whiasu.wales.nhs.uk/>

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwefan Newydd Meddyginiaeth Iechyd Meddwl

Mae gwefan newydd "Dewis a Meddyginiaeth" sy’n cynnig mynediad i ddefnyddwyr a gofalwyr wybodaeth a chyngor cynhwysfawr ar gyflyrau iechyd meddwl a grwpiau meddyginiaeth wedi ei lansio. Mae ganddo wybodaeth gyfoes ar fwy nag 100 o feddyginiaethau iechyd meddwl a grwpiau meddyginiaethau, cyngor ar 17 o gyflyrau iechyd meddwl, tablau sy’n cynnwys y prif driniaethau a ddefnyddir, a sut credir bod y cyffuriau’n gweithio. Mae nifer fawr o ddatblygiadau a gwelliannau pellach wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth i bobl am feddyginiaethau a ddefnyddir yn y maes iechyd meddwl i gynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau deallus am feddyginiaethau. Gall unrhyw rai defnyddio’r wefan.
<http://www.choiceandmedication.org.uk/>