Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam
Mae’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gosod cyfrifoldeb ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i ffurfio ac i weithredu strategaeth ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a lles ei phoblogaeth leol. Mae Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam ag aelodaeth sy’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Lleol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Dwyreiniol), Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Cyngor Iechyd Cymunedol Clwyd a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.
Nid yw Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn delio a’n canfyddiadau traddodiadol o wasanaeth gofal iechyd neu awdurdod lleol sy’n darparu gofal cymdeithasol yn unig, mae iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn sicrhau bod y potensial llawn ym mhob agwedd o’n bywydau dyddiol yn cael ei gwrdd. Mae ein hanghenion dydd i ddydd yn ryng-ddibynnol ac mae’n angenrheidiol i gynllunio ar gyfer pob angen nid yn unig y rhai hynny mewn perthynas â body n sâl neu ag angen gofal.
"Gofalu am ein Hiechyd 2008 - 2011" yw’r strategaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar gyfer Wrecsam. Mae wedi ei seilio ar Asesiad Angen diogel - roedd y broses hon yn cynnwys casglu ac asesu data poblogaeth a thueddiadau iechyd, hefyd casglu gwybodaeth ansoddol am dybiaethau a phrofiadau pobl. Y weledigaeth gyffredinol yw:
"I wella iechyd, cynhwysiant cymdeithasol a lles plant, pobl ifanc ac oedolion"
Gyda phedwar prif amcan:
· I wella iechyd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion.
· I wella’r mynediad at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
· I wella safon gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
· I wella cyfranogiad a bodlonrwydd dinasyddion gyda gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
Yn tanategu amcanion mae ystod o wasanaethau a chanlyniadau penodol sydd i’w cyflawni. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles wedi sefydlu ystod o grwpiau Comisiynu a Grwpiau Rhaglen i gymryd y rhaglenni gweithredu a gwaith ymlaen.
Mae’r Sector Wirfoddol wedi ei chynrychioli ar bob lefel yn y strwythurau cynllunio. Mae AVOW yn hwyluso Fforwm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a lles (Oedolion), ac yn cyhoeddi bwletinau electroneg gyson a’r Newyddlen Materion Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i sicrhau bod y sector wirfoddol leol wedi eu cynnwys yn llawn yn y drefn cynllunio.



