Cronfeydd Newid yn yr Hinsawdd Amgylchedd Cymru – Dyddiad Cau Newydd!
17 Maw 2010Fel canlyniad o dderbyn mwy o arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grantiau bychain (hyd at £1,000) wedi cael ei ymestyn.
Mae grantiau hyd at £1,000 ar gael i helpu grwpiau i NAILL AI cymryd camau cyntaf i weithredu dros newid yn yr hinsawdd NEU i helpu eraill i ddysgu mwy am y pwnc neu i gymryd camau ymarferol yn y maes hwn.
Gallwch gael mwy o fanylion a ffurflen gais drwy ffonio 029 2043 1766 neu ddanfon neges e-bost at info@environment-wales.org
Mae'n rhaid i ni dderbyn ceisiadau erbyn 5yh, 25 Mawrth 2010. Derbynnir ceisiadau electronig ar yr amod y bydd copiau caled a'r holl wybodaeth cefnogol yn cael eu derbyn erbyn Dydd Llun 29 Mawrth 2010.



