Penodi i Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr CIC - Enwebiadau o’r Trydydd Sector
10 Maw 2010
- Ydych chi’n aelod o staff, bwrdd, gofalwr neu wirfoddol o sefydliad y trydydd (gwirfoddol) sector yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam?
- Hoffech chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol I wasanaethau iechyd a bywydau pobl?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am benodi aelodau gwirfoddol i Gynghorau Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr CIC.
Corff gwarchod annibynnol y cyhoedd yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yw'r Cynghorau Iechyd Cymuned. Maent yn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd ac yn chwarae rhan bwysig o ran dylanwadu ar y ffyrdd o gynllunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau iechyd.
Gwirfoddolwyr yw Aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned a'u swyddogaeth yw cadw eu llygaid a'u clustiau ar agor er budd cleifion a'r cyhoedd, gwrando ar eu pryderon a gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.
Mi fydd Betsi Cadwaladr yn cael eu sefydlu o 1 Ebrill 2010 ymlaen gyda’r Pwyllgorau Lleol isod:
Wrecsam
Bydd Pwyllgorau Lleol gyda tair le i aelodau o’r Trydydd Sector, enwebwyd gan y Cyngor Gwirfoddol Sirol priodol. Mae’r CIC yn chwilio am bobl o bob cefndir – y gofyniad pwysicaf yw bod gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn gwella gwasanaethau iechyd i'ch cymuned. Byddai'r sgiliau canlynol yn ddefnyddiol: diddordeb mewn materion iechyd lleol ac ymwybyddiaeth ohonynt; y gallu i weithio mewn tîm â phobl o gefndiroedd gwahanol; a'r gallu i wrando ar eraill a chyfnewid barn.
Disgwylir i'r aelodau fod ar gael i weithio rhwng 3 a 5 diwrnod y mis.
Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu ond bydd modd hawlio treuliau. Nodwch, mae’n anghenrheidiol fod eich sefydliad yn dangos cysylltiad glir gyda’r Pwyllgor Lleol priodol.
Cysylltwch a: Darren Tomkins, 21 Styrt Egerton, Wrecsam, LL11 1ND. 01978 312556 e-bost darren.tomkins@avow.org
Byddwch yn derbyn pecyn a ffurflen gais er mwyn gwneud gais am enwebiad
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: Dydd Llun 15 Mawrth 2010



