Gwefan ar ei newydd wedd i gynllun gwirfoddoli i ieuenctid

4 Chwef 2010

Bydd GwirVol, y cynllun ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc, fe lansiodd y wefan ar ei newydd wedd, www.gwirvol.org, ddydd Mercher, 27 Ionawr. Bwriedir y wefan newydd ar gyfer gwirfoddolwyr rhwng 16 a 25 oed a’r grwpiau sy’n eu cynnwys – a’r rheini sy’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Mae’r wefan yn llawn o nodweddion newydd cyffrous, o gystadlaethau a phleidleisiau ar-lein (rydym ni eisiau gwybod beth yw barn ein gwirfoddolwyr) i gwestiynau cyffredin, adnoddau a phecynnau i wneud cais am grant – yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i ymgeisio. Cewch hefyd ddarllen am brofiadau go iawn ein gwirfoddolwyr, megis Lisa Ward sy’n 16 mlwydd oed, a fu’n gwirfoddoli yn y Sw Fynydd Gymreig. Bu mor llwyddiannus fel ei bod yn awr yn Geidwad Sw dan Hyfforddiant. Gallwch hefyd chwilio am leoliad yn eich ardal, a chael yr holl newyddion diweddaraf am waith gwirfoddol i ieuenctid ynghyd â’r holl fanylion am ddigwyddiadau a gynhelir ar draws Cymru.

Cewch hefyd ddysgu rhagor am ein panel i wirfoddolwyr ifanc, GwirForce, sy’n recriwtio ar draws Cymru. Mae GwirForce yn gofyn i’w haelodau gefnogi’r cynllun drwy roi’u safbwyntiau ar wirfoddoli a lledaenu’r gair ymysg eu cyfoedion.

Uchafbwynt arall yw’r cyfle i ddod i gysylltiad â’n Cynghorwyr i Wirfoddolwyr Ifanc, sydd wedi’u lleoli ar draws Cymru. Mae’u tudalennau proffiliau’n llawn dop o wybodaeth ddefnyddiol, a gallwch gysylltu â nhw am gefnogaeth a chyngor. Mae’r Cynghorwyr hyn hefyd ar gael am gyngor ar hybu cyfleoedd i wirfoddoli yn eich grŵp chi, neu gallwch sgwrsio am leoliadau lleol neu gael gwybodaeth bellach am grantiau a buddion.

Mae gan ein partneriaid broffiliau hefyd, gan ganiatáu i chi ddysgu rhagor amdanynt a pham eu bod yn cefnogi’r cynllun pwysig hwn. Yn eu plith mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, Heddlu Gogledd Cymru – sy’n cynnal rhaglen gadetiaid i bobl ifanc 16-18 oed – a Draig Ffynci, sefydliad sydd â’r nod o roi i bobl ifanc y cyfle i leisio’u barn ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Bydd GwirVol yn diweddaru’r wefan yn barhaus i roi rhagor o gefnogaeth, cyngor, gwybodaeth a hwyl i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith gwirfoddol i ieuenctid.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r cynllun, os hoffech anfon eich newyddion atom neu hyrwyddo digwyddiad, ymwelwch â www.GwirVol.org

Gallwch hefyd ein dilyn ar twitter www.twitter.co.uk/gwirvol ac ymuno â’n grŵp facebook www.facebook.com.