GwirVol Grantiau Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc 2010-2011
10 Maw 2010Grantiau Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc –
GwirVol Grantiau Gwirfoddoli Ymhlith Pobl Ifanc 2010-2011
‘Cyfleoedd’ a ‘Hyrwyddo’
All eich mudiad annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £420,000 trwy WCVA i gefnogi prosiectau a fydd yn ysgogi newid sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy'n gwirfoddoli, ac amrywiaeth gwirfoddolwyr ifanc.
Nod cynllun newydd Grantiau Gwirfoddoli ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol, yw cefnogi’r gwaith o ddarparu a hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli newydd gan fudiadau trydydd sector yng Nghymru, yn enwedig i bobl ifanc dan anfantais. Mae pecynnau ymgeisio ar wahân ar gael ar gyfer grantiau ‘Cyfleoedd’ neu ‘Hyrwyddo’.
Pobl ifanc sy’n cael blaenoriaeth:
Mae’r cynllun grant yn ceisio rhoi blaenoriaeth i gyfleoedd gydag ystod eang o bobl ifanc (16 – 25 oed), ac ar eu cyfer, yn enwedig:
· Pobl ifanc o gymunedau difreintiedig: yn benodol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
· Pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu
· Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed
· Pobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg, hyfforddiant neu mewn cyflogaeth
Faint sydd ar gael?
· ‘Cyfleoedd’: hyd at £10,000 o nawdd prosiect ar gyfer gweithgareddau a fydd yn darparu amrywiaeth eang o brofiadau gwirfoddoli newydd ac arloesol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed – naill ai gyda'ch mudiad eich hun neu gyda mudiad arall.
· ‘Hyrwyddo’: bydd hyd at £5,000 o nawdd prosiect yn hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ac ar eu cyfer, ee drwy ddigwyddiadau hyrwyddo, gwefannau, arddangosfeydd neu ymweliadau.
Rhaid i chi allu rhoi disgrifiad clir o sut y byddwch yn tynnu sylw pobl ifanc ac yn eu denu; yn enwedig y rheini sydd dan anfantais neu wedi'u heithrio; sut y byddwch yn mesur llwyddiant a sut y byddwch yn gwario’r arian.
Rhaid cwblhau’r holl brosiectau a rhoi cyfrif amdanynt erbyn 31 Mawrth 2012. Rhaid ad-dalu unrhyw nawdd sydd heb ei wario erbyn y dyddiad hwnnw.
Pryd gallwch wneud cais?
Rhaid i bob cais cyflawn ar gyfer y rownd hon, gyda phob dogfen ategol, ddod i law erbyn
16 Mehefin 2010 fan hwyraf.
Ni ystyrir ceisiadau hwyr.
Gofynnir i’r ymgeiswyr anfon copi o fersiwn derfynol eich cais dros e-bost at GwirVol@wcva.org.uk os gwelwch yn dda, yn ogystal ag anfon copi caled wedi’i lofnodi, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i brosesu eich cais cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl. Rhaid i Swyddfa WCVA ym Mae Caerdydd dderbyn y copi caled wedi’i lofnodi erbyn 16eg Mehefin 2010.
Mae pecynnau ymgeisio ar gael gan Ddesg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu www.gwirvol.org.uk, neu anfonwch e-bost at help@wcva.org.uk
GwirVol International Youth Volunteering Grant Scheme 2010-2011
The GwirVol International Youth Volunteering Grant Scheme will support opportunities to volunteer internationally for young people in disadvantaged and minority communities in Wales.
The GwirVol International Youth Volunteering Grants scheme aims to prioritise direct delivery of opportunities with and for a diverse range of young people (aged 16 – 25) and particularly welcomes applications from organisations that will work with:
· Young people from disadvantaged communities: particularly Communities First areas and Black, Asian and Minority Ethnic communities
· Young people with physical or learning disabilities
· Young Peopl aged 16-18
· NEETS, young people not in education, employment or training
The scheme will support one-year project funding of up to £30,000 for a structured programme of activities that will deliver high quality international volunteering experiences for young people aged 16-25. The GwirVol International Youth Volunteering Grants scheme will support up to 80% of total project costs.
Project proposals must demonstrate how organisations will deliver new, high quality volunteering experiences, and how they will approach, attract and support young people, particularly those that are disadvantaged or excluded.
Successful projects will have a positive impact on individuals, groups and the wider community in Wales and overseas through youth volunteering.
The closing date for all applications is 16 June 2010.
No applications received after that date will be considered.
Applicants are asked to email a copy of the final version of your application to GwirVol@wcva.org.uk in addition to sending a signed hard as this will help us to process you application as quickly and efficiently as possible. The signed hard copy must be received by the WCVA Cardiff Bay Office by 16th June 2010.
Cynllun Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol 2010-2011
Bydd Grant Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig a chymunedau lleiafrifoedd ethnig wirfoddoli ar lefel ryngwladol.
Mae cynllun Grantiau Gwirfoddoli Rhyngwladol ymhlith Pobl Ifanc – GwirVol yn anelu at roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd yn uniongyrchol gydag ystod eang o bobl ifanc (16 - 25 oed), ac ar eu cyfer, ac yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fudiadau sy’n gweithio â’r canlynol:
· Pobl ifanc o gymunedau difreintiedig: yn benodol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
· Pobl ifanc a chanddynt anableddau corfforol neu anableddau dysgu
· Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed
· Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEETS)
Bydd y cynllun yn rhoi hyd at £30,000 o gyllid prosiect am flwyddyn ar gyfer rhaglen weithgareddau strwythuredig a fydd yn cynnig profiadau gwirfoddoli rhyngwladol o safon i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Bydd cynllun Grantiau Gwirfoddoli Rhyngwladol Ymhlith Pobl Ifanc GwirVol yn cyfrannu hyd at 80% o gyfanswm costau'r prosiect.
Rhaid i gynigion ar gyfer prosiectau ddangos sut y bydd mudiadau’n mynd ati i ddarparu profiadau gwirfoddoli newydd o safon uchel, a sut y byddant yn tynnu sylw ac yn denu pobl ifanc, ac yn cefnogi’r bobl ifanc hynny, yn enwedig y rheini sydd dan anfantais neu wedi’u heithrio.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael effaith gadarnhaol ar unigolion, ar grwpiau neu ar y gymuned ehangach drwy wirfoddoli ymhlith pobl ifanc.
Y dyddiad cau ar gyfer pob cais fydd 16 Mehefin 2010.
Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw'n cael eu hystyried.
Gofynnir i’r ymgeiswyr anfon copi o fersiwn derfynol eich cais dros e-bost at GwirVol@wcva.org.uk os gwelwch yn dda, yn ogystal ag anfon copi caled wedi’i lofnodi, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i brosesu eich cais cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl. Rhaid i Swyddfa WCVA ym Mae Caerdydd dderbyn y copi caled wedi’i lofnodi erbyn 16eg Mehefin 2010.



