RSS

Digwyddiad yn Wrecsam i godi sylw Hawliau Gofalwyr

Gall miloedd o bobl sy’n gofalu am berthnasau sâl ac anabl gartref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam golli allan ar fudd-daliadau a chefnogaeth werthfawr. Gallant ddarganfod fwy o wybodaeth drwy fynychu Diwrnod Hawliau Gofalwyr arbennig a drefnwyd gan Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam (rhan o AVOW) ar ddydd Gwener 5ed o Ragfyr yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Gerddi, Rhosddu, Wrecsam, 10am-3pm.

Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam yw un o fwy nag 1000 grŵp ar draws y DU sy’n cymryd rhan yn y Diwrnod Hawliau Gofalwyr, diwrnod ymwybyddiaeth genedlaethol a drefnwyd gan Carers UK. Amcan y diwrnod yw rhoi gwybod i ofalwyr am eu hawliau, budd-daliadau a gwasanaethau maent ganddynt hawl iddo.

Byddwn yn cynnal ein digwyddiad yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Gerddi, Rhosddu, Wrecsam, 10am-3pm.

Bydd llawer o fudiadau o ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn mynychu, gyda stondinau gwybodaeth i gynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr. Bydd gennym hefyd gyflwyniadau wybodaeth ar arbed ynni ac arian ynghyd a chyngor budd-daliadau.

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn cynnig sesiynau therapi, ac i ddod a’r digwyddiad i ben bydd gennym adloniant gan gôr Ysgol Iau Parc Acton.

Dywedodd Ceri Ord o Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam:

"Mae unrhyw un sy’n gofalu am berson sâl neu anabl ar sail ddi-dâl yn ofalwr a gallant efallai dderbyn cymorth. Bydd croeso mawr iddynt ddod draw i’n Diwrnod Hawliau Gofalwyr am ychydig o gyngor".

"Mae llawer o ofalwyr yn anymwybodol o’r budd-daliadau a gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Dylai gofalwyr gysylltu â Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam, eu swyddfa Cyngor Ar Bopeth lleol neu Carers UK, bydd yn gallu eu cynghori ar unrhyw gymorth ariannol gallant ei gael. Dylai gofalwyr hefyd gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol a gofyn am asesiad ar eu hanghenion - felly gallant gael y gefnogaeth maent yn haeddu."

Mae Carers UK wedi cynhyrchu llyfryn gwybodaeth ar gyfer gofalwyr sydd eisiau rhagor o wybodaeth am eu hawliau o’r enw . Gall ofalwyr archebu copi o’r llyfryn drwy; have produced an information booklet for carers who want information about their entitlements called Looking after Someone? - A guide to carers’ rights and benefits. Gall golfawyr archebu copi o’r llyfryn drwy;

· Alw CarersLine ar 0808 808 7777

· Ymweld â www.carersuk.org

· Ysgrifennu at Carers Rights Day, Carers UK,

20 Great Dover Street, Llundain SE1 4LX;

· Anfon e-bost carersrightsday@carersuk.org

Am ragor o wybodaeth: ceri.ord@avow.org neu 01978 318812