Beth sy'n digwydd?
Gweithdai Canhwyllau a Fferm Hufen Ia
Ym mherfeddion cefn gwlad Sir Gaer mae’r Cheshire Workshops lle gallwch wylio crefftwyr medrus, yn ddynion a merched, yn cerfio canhwyllau gyda llaw drwy ddilyn yr hen grefft. Os byddwch yn teimlo’n greadigol, fe gewch chithau hefyd gyfle i wneud eich cannwyll eich hun!
Cheshire Ice Cream Farm yw un o atyniadau twristiaeth mwyaf anghyffredin Sir Gaer. Mae dros 30 gwahanol flas o hufen ia a sorbet i ddewis ohonynt. I’ch helpu i benderfynu pa un yw eich hoff flas, gallwch brofi rhai am ddim a phrynu pecyn i fynd adref gyda chi.
Rhaid archebu lle ar gyfer y trip hwn.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mai 2009 Amser: 10yb- 4.30 yp (tua) Y gost: £6
Taith Dywys Dreftadaeth o Gwmpas Wrecsam
Hoffech chi ddysgu mwy am hanes lleol Wrecsam?
Os hoffech chi, ymunwch â Phil a’r tîm o Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam i fynd â chi am dro hamddenol drwy strydoedd y dref i gael gwybod mwy am dreftadaeth gymdeithasol, masnachol a diwydiannol y dref.
Mae’r daith yn cynnwys mwy na 30 o lefydd sydd o ddiddordeb hanesyddol lleol ac yn egluro cysylltiadau’r dref â ffigyrau enwog o’r gorffennol. Mae’n rhoi cyfle i ddarganfod rhai o berlau cudd Wrecsam sydd bellach wedi mynd yn angof – Hen Ffynnon y Dref; safle’r Pit Ceiliogod; a hen dwneli tanddaearol yn arwain at Eglwys San Silyn.
Rhaid archebu lle ar gyfer y Daith Dreftadaeth.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Mai 2009 Amser: 12yb-2.30yp Y gost: £4
Sesiwn Grefft - Decoupage
Dewch i roi cynnig ar fath newydd o sesiwn grefft wrth i Diane eich arwain drwy’r grefft o decoupage. Bydd hon yn sesiwn hamddenol a phleserus ond bydd hefyd yn rhoi cyfle ichi ddysgu sgil newydd!

Rhaid archebu lle ar gyfer y Sesiwn Grefft.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009 Amser: 10yb-12.30yp
Sgiliau Cyfrifiadurol Sylfaenol - Y We ac E-Bost
Hoffech chi ddysgu sut i gyfathrebu drwy’r e-bost neu wneud ymchwil ar y we?
Os oes diddordeb gennych, yna dowch draw i’r gwersi sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol lle bydd tiwtor cymwysedig yn dangos ichi sut i ddefnyddio’r we a’r e-bost. Bydd y cwrs chwech wythnos hwn yn rhoi’r holl sgiliau a’r hyder y bydd ei angen arnoch.
Rhaid archebu lle ar gyfer y gwersi cyfrifiadurol a rhaid ichi ymrwymo i fynychu'r sesiynau am y 4 wythnos gyfan.
Dyddiad dechrau: Daydd Iau, 30 Ebrill, 7 fed o Mai, 14fed o Mai, 21 o Mai. Amser: 6-8yh
Sgwrs Iechyd a Maeth
Dowch draw i ddarganfod pa fwydydd sydd o les ichi a pha rai sy’n ddrwg ichi drwy wrando ar sgwrs ddifyr gan Ddietegydd Cymunedol.
Bydd y sgwrs yn ‘rhyngweithiol’ iawn a bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau drwy gydol y sesiwn.
Rhaid archebu lle ar gyfer y sgwrs.
Dyddiad: 6 Mai 2009 Amser: 10yb- 12.30yp
Gweithdai Canhwyllau a Fferm Hufen Ia - Teuluoedd
Ym mherfeddion cefn gwlad Sir Gaer mae’r Cheshire Workshops lle gallwch wylio crefftwyr medrus, yn ddynion a merched, yn cerfio canhwyllau gyda llaw drwy ddilyn yr hen grefft, neu adael i’r plant roi cynnig ar wneud eu cannwyll eu hunain drwy ddefnyddio’r broses dipio!
Cheshire Ice Cream Farm yw un o atyniadau twristiaeth mwyaf anghyffredin Sir Gaer. Mae dros 30 gwahanol flas o hufen ia a sorbet i ddewis ohonynt. I’ch helpu i benderfynu pa un yw eich hoff flas, gallwch brofi rhai am ddim a phrynu pecyn i fynd adref gyda chi. Rhaid archebu lle ar gyfer y trip hwn. Dyddiad: Dydd Iau, 28 Mai 2009 Amser: 10yb-4.30yp (Tua) Y gost: Oedolion £6 Plant £3
![]()
Maen nhw hefyd yn fodlon dod i’ch cartref i wneud archwiliad diogelwch tân am ddim. Rhaid archebu lle ar gyfer y sesiwn wybodaeth. Dyddiad: Mercher, Mehefin 24 Amser: 1.30yp .
Wythnos Gofalwyr8-14 Mehefin 2009 |





