What is available?

Galw heibio

Beth am alw heibio am sgwrs, gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’r sesiwn galw heibio ar gael pob dydd Llun rhwng 10am-12pm, nid oes angen gwneud apwyntiad....dim ond galw heibio!

Dyddiad: Pob Dydd Llun (ac eithrio gwyliau banc) Amser: 10am-12pm Lleoliad: Swyddfa Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam, AVOW

Sesiynau Cwnsela

Mae’r sesiynau cwnsela’n cael eu darparu mewn amgylchedd tawel, cyfeillgar a phreifat. Ni fydd y Cwnselydd yn rhoi cyngor ichi nac yn dweud wrthych beth ddylech ei wneud; maen nhw yno i wrando ac i’ch helpu i ddisgrifio eich teimladau am y pethau y dewiswch siarad amdanynt yn y sesiynau.

Rhaid archebu lle ar gyfer y sesiynau Cwnsela

Dyddiad: Pob bore Dydd Gwener Amser: 9.30am-12.30pm Lleoliad: AVOW

Sesiynau Therapi – Y Groes Goch Brydeinig

Mae’r sesiwn Gofal Therapiwtig yn sesiwn hanner awr o ymlacio llwyr sy’n cynnwys:

· Masâj dwylo a gofal dwylo

· Masâj o’r gwddf a’r ysgwyddau drwy eich dillad

Rhaid archebu lle ar gyfer y sesiynau Therapi

Dyddiad: Ffoniwch ni am fanylion o ba ddyddiadau sydd ar gael Amser: 1-4pm Lleoliad: AVOW

Y Groes Goch Brydeinig – Cymorth Seibiant i Ofalwyr

A oes angen seibiant byr arnoch o’ch cyfrifoldebau gofalu?

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam a’r Groes Goch Brydeinig yn awr yn falch o gynnig gwasanaeth seibiant i ofalwyr. Gall y sesiynau bara hyd at ddwy awr a medrant olygu y gallwch wneud pethau fel siopa am fwyd, mân dasgau neu ddim ond ymlacio.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth seibiant i Ofalwyr, cysylltwch â Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam os gwelwch yn dda.

Grwp Cymorth i Rieni sy'n Ofalwyr

A ydych yn gofalu am eich mab, merch neu un o’ch wyrion neu wyresau? Os ydych, gall y Grwp Cymorth uchod eich helpu!

Ar y cyd â thîm Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc, gallwn yn awr gynnig grwp Cymorth i Rieni sy’n Ofalwyr. Ymunwch â rhieni eraill sy’n ofalwyr mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i siarad am eich rôl ofalu a’ch anghenion........... neu ddim ond i sgwrsio am yr hyn y gwnaethoch ei weld ar y teledu neithiwr!

Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam.

Dyddiad: Mae'r grwp yn cyfarfod pob yn ail ddydd Iau Amser: 10.30am-12.30pm Lleoliad: The Oppprtunity Centre, Hampden Way. Plas Madoc

Grwp Cymorth Gyda'r Nos

A ydych…….Yn gymorth i rywun sydd â phroblem gyffuriau neu alcohol?Yn teimlo bod angen rhywfaint o help arnoch?Yn meddwl y byddai siarad ag eraill mewn sefyllfa debyg yn help?

Os ydych, yna gallai’r Grwp Cymorth Gofalwyr eich helpu.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam.

Dyddiad: Y Dydd Mawrth olaf pob mis Amser: 6-8pm Lleoliad: Ty AVOW, 21 Stryd Egerton, Wrexham.