Ymgynghoriadau Presennol

Cyhoeddwyd "Ar Draws Ffiniau" (Adolygiad Beecham), ymchwiliad manwl o’r modd caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yng Nghymru yn 2006. Pwysleisiodd yr Adolygiad yr angen i’r GIG a llywodraeth leol i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon a gosod y cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru at y dyfodol. Mae Cymru wedi mabwysiadu’r "Drefn Dinesydd" yn hytrach na’r "Drefn Cwsmer" a fabwysiadwyd yn Lloegr. Mewn Trefn Cwsmer caiff gwasanaethau eu gwella o ganlyniad i ddinasyddion yn mynegi anfodlonrwydd â gwasanaethau trwy beidio â’u defnyddio, tra bod y drefn dinesydd daw gwelliannau a newidiadau o ganlyniad i sylwadau gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Yn enwedig o fewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol mae symudiad tuag at ddarpariaeth o wasanaethau ar y cyd ble ceir symudiad dynamig o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn meddiant pobl broffesiynol a rheolwyr, i sefyllfa ble mae cymunedau a defnyddwyr yn cyd-gynhyrchu cyfleusterau a gweithgareddau sydd o fudd ac yn cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas.

Rhoddai hyn her i fudiadau’r sector statudol, ond mae cyfranogiad dinesydd bellach wedi ei ymgorffori mewn polisi ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru ac felly rhaid iddo fod y brif ffactor at wella gwasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae cymryd rhan mewn cynlluniau sy’n arwain at gynllunio gwasanaethau yn weithgaredd werth ei wneud ar gyfer y drydedd sector, ac yn cynnig cyfle i ddylanwadu ar yr allbwn i ddefnyddwyr gwasanaethau. Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol fod yn ddefnyddiol i alluogi i bobl roi eu teimladau a’u dymuniadau. Ar gyfer ymgynghoriadau mawr ar effaith polisi a datblygiadau ar y sector yn lleol, mae AVOW yn gyffredinol yn paratoi ymateb ar ran yr holl sector wirfoddol, yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd aelodau. Serch hynny, anogir mudiadau i ymateb yn uniongyrchol o’u safbwynt hwy o wybodaeth arbenigol, gan os yn bosib anfon copi o’r ymateb at AVOW er mwyn ein galluogi i fod yn ymwybodol o farn o fewn y sector yn lleol.