Skip links

Understanding your views and experience of planned orthopaedic surgery

Deall eich barn a’ch profiad o lawdriniaeth orthopedig wedi’i chynllunio (gososd clun a phen-glin newydd)

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn awyddus i ddeall barn pobl sy’n derbyn gofal yng Ngogledd Cymru, yn benodol ar lawdriniaeth orthopedig wedi’i chynllunio, a elwir hefyd yn ofal dewisol.

Pan fyddwn yn sôn am lawdriniaeth orthopedig, rydym yn aml yn cyfeirio at osod clun a phen-glin newydd.

Rydym yn awyddus i glywed barn pobl sydd â phrofiad o gael diagnosis, aros am ofal a/neu wedi cael llawdriniaeth i osod cymalau newydd o fewn y 18 mis diwethaf yng Ngogledd Cymru, a byddwn yn cynnal cyfres fer o grwpiau trafod bach yn gynnar yn y Blwyddyn Newydd i archwilio profiadau.

Rydym yn chwilio am bobl i wirfoddoli i gymryd rhan yn y trafodaethau yma (hyd at 10 o bobl) i rannu meddyliau a syniadau; a darparu mewnwelediad i’n helpu i ddylunio ein gwasanaethau nawr ac ar gyfer y dyfodol

Ni fydd y grwpiau trafod yn para mwy na 90 munud a byddant yn cael eu cynnal naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, mi fydd cyfranogwyr yn cael eu had-dalu am eu hamser a’u treuliau.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl nawr a byddwn yn cynnal y grwpiau ym mis Ionawr 2024. Rydym yn gweithio gydag ASV Research Ltd (ASV) a fydd yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhedeg y grwpiau ffocws ar ran y Bwrdd Iechyd.

Os hoffech gymryd rhan yn y grwpiau trafod, anfonwch e-bost at:

[email protected]

Cofiwch gynnwys yn eich neges:
• Eich enw;
• Manylion cyswllt (e-bost a rhif ffôn);
• Y Sir yr ydych yn byw ynddi; a
• Ble cawsoch eich llawdriniaeth (os nad ydych yn dal i aros.)

Sylwch nad yw gwirfoddoli i gymryd rhan yn gwarantu y cewch eich gwahodd i ymuno â’r trafodaethau. Byddwn yn cydnabod pob gohebiaeth ac yn rhoi gwybod i chi os ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan ai peidio.

• Bydd unrhyw ddata cyswllt personol a ddarperir i ASV yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ymarfer hwn yn unig, yn cael ei ddinistrio’n ddiogel ar ôl ei gwblhau ac ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion marchnata o dan unrhyw amgylchiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am bolisi data a phreifatrwydd ASV, gweler Polisi Preifatrwydd – ASV Research (asv-research.com)

Understanding your views on and experience of planned orthopaedic surgery (hip and knee replacement)

Betsi Cadwaladr University Health Board are keen to understand the views of people receiving care in North Wales, specifically on planned orthopaedic surgery, also known as elective care.

When we talk about orthopaedic surgery, we are most often referring to hip and knee replacement.

We are keen to hear the views of people with experience of being diagnosed, waiting for care and/or having had joint replacement surgery within the last 18 months in North Wales, and we will be running a short series of small discussion groups early in the New Year to explore experiences.

We are looking for people to volunteer to participate in the small group discussions (up to 10 people) to share thoughts and ideas; and provide insight to help us design our services now and for the future

The discussion groups will last no more than 90 minutes and will be run either online or face to face, participants will be reimbursed for their time and expenses.

We are looking to hear from people now and will be running the groups in January 2024. We are working with ASV Research Ltd (ASV) who will be undertaking the recruitment of volunteers and running the focus groups on behalf of the Health Board.

If you would like to take part in the discussion groups, please email:

[email protected]

Please include in your message:
• Your name;
• Contact details (email and phone number);
• The county you live in; and
• Where you had your surgery (if you are not still waiting.)
Please note that volunteering to take part does not guarantee you will be invited to join the discussions. We will acknowledge all correspondence and let you know if you are to be invited to take part or not.

• Any personal contact data provided to ASV will only be used solely for the purposes of this exercise, will be securely destroyed on completion and will under no circumstances be used for any marketing purposes.
• For further information on ASV’s data and privacy policy, see Privacy Policy – ASV Research (asv-research.com)

en_GBEnglish (UK)
Skip to content