Rydym ni yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy effeithiau gwaethaf llifogydd a’r Coronafeirws.
Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau’r llifogydd diweddar, cawn ein hwynebu gan yr her nesaf, y Coronafeirws. Nid yw effaith ymarferol wirioneddol yr un olaf yn eglur eto, ond mae canslo digwyddiadau, llai o ymwelwyr neu lai o werthiannau’n bosibiliadau realistig iawn, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar lif arian mudiadau’r sector gwirfoddol ar hyd a lled y wlad.
Mewn ymateb i hyn, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy’r effeithiau gwaethaf.
Ar yr un pryd, mae’r rheini â benthyciad eisoes yn cael cynnig yr opsiwn o ohirio taliadau am gyfnod.
Benthyciadau carlam mewn argyfwng
Bydd y benthyciadau’n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, cyfnod a phroffil ad-dalu. Maen nhw’n dechrau gyda dalen wag – beth sydd ei angen arnoch? Beth sy’n eich siwtio orau o ran cyfnodau neu ad-daliadau?
Sylweddolir bod cyflymder y broses benderfynu a chyflymder y cyllid sydd ar gael yn hollbwysig, fel y gall mudiadau ymateb yn gyflym wrth i bethau ddatblygu. Felly, rydyn ni am leihau’r broses ymgeisio cymaint â phosibl. Bydd hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o fudiadau a gymeradwyir yn gweld yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn saith niwrnod i gyflwyno ffurflen gais gyflawn (yn unol â chael llofnod ar ddogfennaeth yn brydlon)
Dyma’r meini prawf cymhwyso: –
- Menter gymdeithasol gorfforaethol neu elusen sydd wedi’i leoli yng Nghymru
- Effaith y gellir ei dangos ar lif arian yn sgil y llifogydd neu’r Coronafeirws
- Angen cael asedau newydd am eu bod wedi’u difrodi mewn llifogydd
Gellir defnyddio’r arian ar gyfer y canlynol: –
- Cefnogi’r llif arian
- Prynu asedau newydd yn lle’r hen rai
- Pontio hawliadau yswiriant a dderbynnir
Pobl â benthyciad eisoes
Os ydych chi’n fenthyciwr cyfredol, mae’n bosibl na fydd angen arian ychwanegol arnoch ar hyn o bryd, ond gallai eich llif arian gael ei effeithio yn y fath fodd fel y bydd talu eich ad-daliadau misol ar fenthyciad yn peri i chi gael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd.
Mewn achosion o’r fath, byddwn yn hapus i dderbyn cais i ohirio ad-daliadau ar fenthyciad am gyfnod cytunedig.
Cysylltu
Os hoffech wneud cais am fenthyciad carlam mewn argyfwng neu ddiwygio’r ad-daliadau cyfredol ar eich benthyciad, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ar [email protected] neu 0300 111 0124.