Skip links
Man and woman inside office laughing together

Benthyciadau Carlam Mewn Argyfwng

Rydym ni yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy effeithiau gwaethaf llifogydd a’r Coronafeirws.

Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau’r llifogydd diweddar, cawn ein hwynebu gan yr her nesaf, y Coronafeirws. Nid yw effaith ymarferol wirioneddol yr un olaf yn eglur eto, ond mae canslo digwyddiadau, llai o ymwelwyr neu lai o werthiannau’n bosibiliadau realistig iawn, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar lif arian mudiadau’r sector gwirfoddol ar hyd a lled y wlad.

Mewn ymateb i hyn, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy’r effeithiau gwaethaf.

Ar yr un pryd, mae’r rheini â benthyciad eisoes yn cael cynnig yr opsiwn o ohirio taliadau am gyfnod.

Benthyciadau carlam mewn argyfwng

Bydd y benthyciadau’n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, cyfnod a phroffil ad-dalu. Maen nhw’n dechrau gyda dalen wag – beth sydd ei angen arnoch? Beth sy’n eich siwtio orau o ran cyfnodau neu ad-daliadau?

Sylweddolir bod cyflymder y broses benderfynu a chyflymder y cyllid sydd ar gael yn hollbwysig, fel y gall mudiadau ymateb yn gyflym wrth i bethau ddatblygu. Felly, rydyn ni am leihau’r broses ymgeisio cymaint â phosibl. Bydd hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o fudiadau a gymeradwyir yn gweld yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn saith niwrnod i gyflwyno ffurflen gais gyflawn (yn unol â chael llofnod ar ddogfennaeth yn brydlon)

Dyma’r meini prawf cymhwyso: –

  • Menter gymdeithasol gorfforaethol neu elusen sydd wedi’i leoli yng Nghymru
  • Effaith y gellir ei dangos ar lif arian yn sgil y llifogydd neu’r Coronafeirws
  • Angen cael asedau newydd am eu bod wedi’u difrodi mewn llifogydd

Gellir defnyddio’r arian ar gyfer y canlynol: –

  • Cefnogi’r llif arian
  • Prynu asedau newydd yn lle’r hen rai
  • Pontio hawliadau yswiriant a dderbynnir

Pobl â benthyciad eisoes

Os ydych chi’n fenthyciwr cyfredol, mae’n bosibl na fydd angen arian ychwanegol arnoch ar hyn o bryd, ond gallai eich llif arian gael ei effeithio yn y fath fodd fel y bydd talu eich ad-daliadau misol ar fenthyciad yn peri i chi gael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd.

Mewn achosion o’r fath, byddwn yn hapus i dderbyn cais i ohirio ad-daliadau ar fenthyciad am gyfnod cytunedig.

Cysylltu

Os hoffech wneud cais am fenthyciad carlam mewn argyfwng neu ddiwygio’r ad-daliadau cyfredol ar eich benthyciad, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ar [email protected] neu 0300 111 0124.

cyCymraeg
Skip to content