Mae Adran Chwarae a Datblygu Cymunedol AVOW yn darparu nifer o wasanaethau gwahanol i blant, pobl ifanc, a thrigolion Plas Madoc a thu hwnt.
Yn AVOW rydym yn cydnabod bod Chwarae yn un o agweddau pwysicaf ar fywyd plant (ac oedolion) ac yn ganolog i'w profiad a'u mwynhad o fyw, rydym yn gwybod y bydd eu cyfleoedd i chwarae yn effeithio'n uniongyrchol ar sut maent yn teimlo amdanynt eu hunain ac agweddau eraill o'u bywydau.
Felly, ym mis Gorffennaf 2021, roeddem wrth ein boddau pan wnaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddyfarnu £485,861 i gefnogi ein Gwaith Chwarae yn y gymuned - mae'r cyllid a ddyfarnwyd yn ein galluogi i helpu ein cymuned yn ystod yr amseroedd heriol hyn drwy ddatblygu model newydd o waith Chwarae a Datblygu Cymunedol integredig, gan adeiladu ar y ddarpariaeth Chwarae ac Ieuenctid o ansawdd uchel sydd eisoes yn bodoli ac ymestyn ein dylanwad i'r gymuned ehangach.
Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o fywydau ac yn galluogi'r tîm i adeiladu ar y cryfderau o fewn y gymuned ac i roi mwy o lais i'n plant a'n pobl ifanc.