Gweledigaeth AVOW
I gefnogi sectorau gwirfoddol a chymunedol i gyflawni eu cenhadaethau er lles y gymuned o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam.
Cenhadaeth AVOW
I alluogi'r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gyflawni eu cenhadaethau er lles y gymuned o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam. Bydd AVOW yn:
- Cefnogi datblygiad unigolion a sefydliadau o fewn sectorau gwirfoddol a chymunedol.
- Sefydlu a chynnal arferion da.
- Ymgymryd â darparu gwasanaethau priodol i'r sectorau gwirfoddol a chymunedol.
- Ymgynghori, cynrychioli a hyrwyddo'r sectorau gwirfoddol a chymunedol yn lleol ac yn genedlaethol.
Sefydlwyd AVOW yn 1988 ac mae'n Elusen gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant.
Cyngor Gwirfoddol y Sir (CVC)?
Mae CVCs yn cefnogi'r sector gwirfoddol a chymunedol lleol, tra bod gan WCVA faes cenedlaethol. AVOW yw'r CVC ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae AVOW yn gweithio gyda elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, menterau cymdeithasol, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr unigol, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth.
Mae AVOW yn rhan o Cymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW).
Yr enw ar y cyd a roddir i'r rhwydwaith o sefydliadau cymorth ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru, sy'n cynnwys 19 o Gyngorau Gwirfoddol y Sir (CVCs) yng Nghymru yn ogystal â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Y nod a rennir yw galluogi'r Trydydd Sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu'n llawn at les unigolion a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
Bydd pwyslais ein gwaith ar y cyd yn canolbwyntio ar bedwar colofn gweithgarwch:
- Gwirfoddoli
- 2. Llywodraethu Da
- 3. Cyllid cynaliadwy
- 4. Ymgysylltu ac arwain