Skip links

Tîm Lles

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

Mae'r Rhwydwaith Lles yn dod â sefydliadau trydydd sector (lleol, rhanbarthol a genedlaethol) sy'n gweithredu yn Sir y Fflint a Wrecsam ac sydd â diddordeb mewn iechyd, gofal cymdeithasol, a lles ynghyd. Mae'r Rhwydwaith hefyd ar agor i bartneriaid statudol ac mae'n rhad ac am ddim i ymuno.

Mae'r rhwydwaith cydweithredol hwn yn y Gogledd Ddwyrain yn cael ei reoli ar y cyd gan AVOW a FLVC. Mae'n cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol yn y trydydd sector a'r sector statudol ar draws y sir o gyfarfod wyneb yn wyneb. Brif nod y rhwydwaith yw rhannu diweddariadau ar brosiectau a newyddion o sefydliadau gwahanol ac hybu cysylltiadau rhwng cyfoedion. Rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol.

Nodweddion y rhwydwaith yw:

1. Dod â sefydliadau'r trydydd sector ynghyd i gyflwyno llais ar y cyd.
2. Ysgogi, ysbrydoli, cynnwys, a meithrin ymddiriedaeth rhwng sefydliadau'r trydydd sector.
3. Rhannu gwybodaeth a syniadau ar arferion da gydag eraill sefydliadau'r trydydd sector.
4. Dylanwadu ar ddatblygiad gweithgareddau ac adnoddau iechyd, gofal cymdeithasol, a lles yn Gogledd-ddwyrain Cymru.
5. Sicrhau bod y trydydd sector yn bartner cyfartal yn darparu gweithgareddau ac adnoddau iechyd, gofal cymdeithasol, a lles integredig yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Os hoffech gyflwyno eich gwasanaeth neu eich prosiect mewn digwyddiad rhwydwaith, cysylltwch â: [email protected].

Os hoffech gyflwyno eich gwasanaeth neu eich prosiect mewn digwyddiad rhwydwaith, cysylltwch â:

Strategaeth

  • Hyrwyddo sefydliadau, gwasanaethau, a gweithgareddau'r trydydd sector i bartneriaid statudol
  • Cynrychioli'r trydydd sector mewn cynllunio strategol a grwpiau partneriaeth
  • Cynnwys y trydydd sector mewn ymgynghoriadau ac ymgysylltiadau am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth o fewn y trydydd sector ac ar draws sectorau

Datblygu

  • Gallwn helpu i gefnogi sefydliadau drwy gyfeirio neu darparu cymorth busnes, llywodraethiant, a chyngor ar gyllid
  • Rydym yn darparu hyfforddiant i sefydliadau i wella eu gallu ac effeithiolrwydd
  • Gallwn esbonio cymhlethdodau comisiynu a phryniant
  • Gallwn eich helpu i fod yn gyfredol gyda'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf, a'ch tywys drwy newidiadau mewn strwythurau GIG ac awdurdodau lleol
  • Gallwn eich helpu i sefydlu gwasanaeth neu grŵp newydd
  • Gallwn gefnogi'r trydydd sector yn Sir y Fflint a Wrecsam i gael mynediad at wasanaethau FLVC ac AVOW.

Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

  • Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid statudol i ddarparu gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd, am sefydliadau, gwasanaethau, a gweithgareddau'r trydydd sector
  • Rydym yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol am ddarpariaeth y trydydd sector ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, a lles
  • We work with statutory partners to develop information and advice services including the Single Point of Access (SPoA) a Dewis

Tîm Lles

Justine Hurst

Swyddog Iechyd a Lles Trydydd Sector

David McDonald

Swyddog Datblygu Hygyrchedd

Jane Edwards

Swyddog Canolfan Cymorth Cymunedol

Angie Cunningham

Community Agent for Ruabon

Angen mwy o wybodaeth?

I ddysgu mwy am y gwasanaeth hwn ac archwilio'r adnoddau sydd ar gael, cysylltwch â ni yn 01978 312556 neu drwy e-bost yn [email protected]. Rydym yma i'ch cynorthwyo a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Cysylltwch â ni
cyCymraeg
Skip to content