Skip links
Two women and a man are in an informal and friendly conversation

Sexual Harassment Survey (Bilingual)

Cymraeg/Welsh

(Please scroll down for English)

Mae Undebau yng Nghymru yn lansio ymchwiliad i’r aflonyddu rhywiol y mae gweithwyr yn ei wynebu yn y gwaith. Cam cyntaf y gwaith hwn yw arolwg newydd, a lansiwyd gan y corff undebau, TUC Cymru. Nod yr arolwg yw cael rhagor o wybodaeth gan y rheini sydd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae’r arolwg yn cael ei lansio yn sgil y cynnydd a welwyd yn ystod pandemig Covid-19 yn nifer y gweithwyr oedd yn rhoi gwybod i’w hundebau am aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae rhai gweithwyr wedi rhoi gwybod am gydweithwyr yn gwneud sylwadau amhriodol am weld y tu mewn i’w hystafelloedd gwely neu am benaethiaid yn gwneud gofynion afresymol o ran yr hyn y dylent ei wisgo ar gamera. Mae gweithwyr eraill wedi derbyn sylwadau amhriodol drwy grwpiau Whatsapp staff. Mae diogelwch gweithwyr hefyd wedi cael ei roi mewn perygl yn ystod y pandemig yn sgil rheoliadau Covid oedd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gorfod bod mewn gweithle ochr yn ochr â’r sawl oedd yn gyfrifol ond mewn grwpiau llai nag arfer.

Bydd canfyddiadau arolwg TUC Cymru yn cael eu defnyddio i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i bawb.

Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gwbl annerbyniol. Ond rydyn ni’n gwybod bod rhai cyflogwyr yn anwybyddu ymddygiad gwael neu’n gadael iddo barhau heb ei herio. Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn cael ei ddisgrifio fel ‘ychydig o hwyl?’  Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed ‘dim ond jôc oedd hi, doedden nhw ddim yn ei feddwl o go iawn?’

Mae’r mudiad undebau llafur yn gwbl hanfodol i gael gwared ar yr ymddygiad hwn. Bydd canlyniadau ein harolwg newydd ar aflonyddu rhywiol yn ein helpu i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gynrychiolwyr i roi stop ar dramgwyddwyr o’r fath a gwella diogelwch a lles meddyliol pobl yn y gwaith.”

Dywedodd Charlotte Archibald, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd Cymorth i Fenywod Cymru: “Rydyn ni’n falch o gefnogi gwaith TUC Cymru i herio aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel lle maen nhw’n cael eu parchu, ond i lawer o fenywod, nid felly y mae mewn gwirionedd. Bydd gan lawer gormod o fenywod eu stori eu hunain am aflonyddu rhywiol, o ba mor ddiraddiol, dilornus a pheryglus oedd y profiadau roedden nhw wedi’u cael. Pan fydd pobl yn y gweithle yn dibrisio neu’n gwrthod credu profiadau o’r fath, mae’n cyfrannu at ddiwylliant ehangach sy’n normaleiddio trais a cham-drin yn erbyn menywod.

Y llynedd, lansiodd Cymorth i Fenywod Cymru yr ymgyrch ‘Dim Ardal Lwyd’ i dynnu sylw at weithleoedd lle ceir amgylchedd gwenwynig sy’n galluogi aflonyddu rhywiol i ffynnu. Mae’n destun pryder bod 4 o bob 5 o’r menywod a ymatebodd i’n hymgyrch wedi goroesi aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Bydd y gwaith y mae TUC Cymru yn ei wneud i gael darlun clir o raddfa ac effaith aflonyddu rhywiol, ac i roi’r adnoddau i Gynrychiolwyr ddarparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol, yn ased enfawr o ran gwneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb.”

English/Saesneg

Unions in Wales have launched an investigation into the sexual harassment that staff face at work. The first stage of this work is a new survey, launched by the union body Wales TUC.

The survey is being launched following an increase during the Covid-19 pandemic of workers reporting sexual harassment at work to their unions.

Some workers have reported colleagues making inappropriate comments about seeing inside their bedrooms or bosses making unreasonable demands of what they should wear on camera. Other workers have received inappropriate comments over staff Whatsapp groups. Workers’ safety has also been put at risk during the pandemic with Covid regulations resulting in some workers having to be in a workplace alongside their perpetrator but in smaller groups than usual.

The findings of the Wales TUC’s survey will be used to create new resources for union reps and to campaign for an end to sexual harassment for everyone.

The survey is open to everyone who works in Wales, not just union members. It is available in both Welsh and English and all responses are completely anonymous.

Wales TUC General Secretary Shavanah Taj said: “Sexual harassment in the workplace is totally unacceptable. But we know that some employers allow bad behaviour to go unchecked and unchallenged. How many times have we heard sexual harassment in the workplace described as, ‘Just a bit of banter?’ How many times have we heard, ‘It was just a joke, they didn’t really mean it?

The trade union movement is absolutely vital to stamping out this behaviour. The results of our new sexual harassment survey will help us give reps the skills and know-how needed to combat perpetrators and improve the safety and mental wellbeing of people at work.”

Charlotte Archibald, Communications & Campaigns Manager at Welsh Women’s Aid, said: “We are pleased to support the work of Wales TUC to challenge sexual harassment in the workplace. Everyone has the right to work in a safe and respectful environment, but for many women, this is not a reality. Far too many women will have their own stories of sexual harassment, of how degrading, humiliating and dangerous those experiences felt for them. When these experiences are minimised or disbelieved in the workplace, it plays into a wider culture that normalises violence and abuse against women.

Welsh Women’s Aid launched the ‘No Grey Area’ campaign last year to call out toxic workplace environments that enable sexual harassment to flourish. Disturbingly, 4 out of 5 of the women who responded to our campaign were survivors of sexual harassment in the workplace. The work Wales TUC is carrying out to get a clear picture of the scale and impact of sexual harassment, as well as equipping Reps with the tools to provide necessary support and guidance, will be a huge asset in making workplaces safer for everyone.”

Trades Union Congress Wales bilingual logo

cyCymraeg
Skip to content