Skip links
High Sheriff of Clwyd Community Awards 2024 - Wrexham Recipients

Wrecsam yn Dathlu yng Ngwobrau Cymuned Uchel Siryf Clwyd 2024

2024 High Sheriffs Community Awards - Award winners on the stairwell

Ddydd Sadwrn, mynychodd AVOW ynghyd â nifer o gynrychiolwyr sefydliadau eraill, Seremoni Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2024

Mae'r gwobrau'n galluogi'r Uchel Siryf i gydnabod nifer fach o'r gwirfoddolwyr a'r sefydliadau yn siroedd Conwy, Sir Denbish, Sir y Fflint a Wrecsam sy'n ffurfio ardal hanesyddol a seremonïol Clwyd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gymeradwyo a dathlu eu hymroddiad anhygoel a'u gwaith caled. Cynhaliwyd y digwyddiad ei hun yn Neuadd Brynkinalt, sy'n 'ymffrostio dros fil o flynyddoedd o hanes' yn ôl eu gwefan.

"Rwyf yn gobeithio drwy rannu rhai o'u straeuon, y gwnawn ni annog ac ysbrydoli pobl eraill i roi cynnig ar wirfoddoli hefyd"- Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd 2023/2024

Young Influencers with the High Sheriff. Ffion, Kate Hill-Trevor, Arty, Mckenzize, Dawn Roberts-McCabe
Young Influencers Arty, Mckenzie, Ffion and Katherine Price
Steven and Dawn Jones, North Wales Crusaders Disability Rugby

Cafodd AVOW y pleser a'r fraint fawr o fod yn brif Gyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) yn Sir Clwyd sydd wedi'i gadw am brosesu enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd eleni. Roedd Dawn Roberts-McCabe, Prif Swyddog AVOW yn awyddus i gofnodi eu diolch i'w cyd-CGS'au yng Nghonwy (CGGC), Sir Ddinbych (CGGSDd), a Sir y Fflint (CGLISFf) am eu cymorth a'u cefnogaeth gyda'r trefniadau.

"Mae Gwobrau'r Uchel Siryf yn gyfle i gydnabod grwpiau unigol ac elusennol eithriadol am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud ar ran eu cymunedau" – Dawn Roberts-McCabe, Prif Swyddog AVOW.

Y derbynwyr o Wrecsam a dderbyniodd wobrau eleni yw:

Yng nghategori gwobrau'r Gwasanaeth Cymunedol

  • Caroline Richards I gydnabod ei gwaith yn trawsnewid bywydau pobol ifac drwy cerddoriaeth
  • Hywel Williams  I gydnabod dros 15 mlynedd o wirfoddoli er mwyn cynorthwyo Apel Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol.
  • Marford and Gresford Luncheon and Caffi Group I gydnabod mwy o'u gwaith ymroddedig er mwyn cynorthwyo pobl hyn yn ein cymunedau
  • O Sir Fflint, Stephen JonesI cydnabod ei waith yn cynorthwyo a hyrwyddo chawraeon anabl yn Sir Fflint a thu hwnt.

In the High Sheriff’s Special Awards Category

  • Anna Buckley a wneuth dderbyn wobr 'i gydnabod ei gwaith diflino'n cynorthwyo ceiswyr lloches a dioddefwyr yn rhyfel yn Wcrain
  • Sion Edwards a Nicholas James wnaeth derbyn wobr i gydnabod eu gwaith ysbrodoledig hefo pobl ifanc ym Mhrosiect Cynnwys Ieuenctic 'The Venture'
  • Dylanwadwyr Ifanc AVOW I gydnabod eu gwaith yn cynorthwyo pobl ifanc Wrecsam

Categori Gwobrau Personol yr Uchel Siryf:

  • WeMindTheGap yn dderbyn wobr 'I gydnabod eu gwaith yn datblygu rhaglenni i rymuso, ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc lleol'
  • Codwyr Sbwriel Wrecsam yn ddebyn wobr 'I gydnabod eu hymroddiad i gadw ardaloedd lleol yn rhydd o sbwriel a chreu ysbryd cymunedol cryfach.
Arty, Ffion, McKenzie outside Brynkinalt hall

Mae AVOW yn falch iawn o'u Dylanwadwyr Ifanc.

Mae Dylanwadwyr Ifanc yn bobl rhwng 14 a 25 oed sy'n goruchwylio grantiau sy'n canolbwyntio ar ieuenctid. Fe wnaeuthon nhw cael erthygl yn y papur newyddion ym mis Rhagfyr am ddefnyddio'r gallu hwn i roi mwy o arian i brosiect sy'n ceisio helpu pobl ifanc ddigartref dros y gaeaf.

Aeth Dylanwadwyr Ifanc AVOW i Uchel Siryf Gwobrau Cymunedol Clwyd ddydd Sadwrn a chasglu Gwobr Arbennig yr Uchel Siryf am wasanaeth i'r gymuned.  Cafodd y Dylanwadwyr Ifanc eu cydnabod am eu gwaith yn cefnogi pobl ifanc Wrecsam. Roedd Ani (Cadeirydd Gwirfoddolwyr y Dylanwadwyr Ifanc), Arty, Mckenzie a Ffion yno ar y noson i dderbyn y wobr ar ran Dylanwadwyr Ifanc AVOW.

"Rydyn ni mor falch o'u holl waith caled a'u hymdrechion, maen nhw wir yn grŵp gwych o bobl ifanc, sy'n gwirfoddoli eu hamser i wella bywydau pobl ifanc eraill." - Katherine Prince, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli, Cymuned a Chyllid (AVOW)

Yn ystod y digwyddiad cyhoeddodd yr Uchel Siryf dderbynnydd Prosiect Trechu Trosedd y Flwyddyn Gogledd Cymru yng Nghlwyd. Dywedodd yr Uchel Siryf eu bod wedi mwynhau ymweld â rhai o'r prosiectau a ariennir gan y grantiau hyn yn fawr a all gael effaith bwerus, gan rymuso ein pobl ifanc lleol i ddatblygu syniad i wneud eu cymuned yn lle mwy diogel i fyw a gwella cydlyniant cymdeithasol.

Derbynnwyr Prosiect Trechu Trosedd y Flwyddyn eleni oedd Clwb Bocsio Ieuenctid Rhyl, i gydnabod y gwaith rhagorol sy'n cefnogi pobl ifanc yn Y Rhyl.

Diolch i bawb wnaeth enwebu ymgeiswyr ar gyfer gwobrau eleni. Fel erioed, reodd rhaid i'r panel a finnau wneud penderfyniadau anodd, and dwi wrth fy modd yn croedawu'r bobol hynny i Fyncunallt heddiw fel yr enillwyr buddugol ledled ystod eang o weithgareddau gwirfoddol a chymunedol a gallu estyn fy niolch personol iddyn nhw gyd.

Gallwn wneud gwahaniaeth hefo'n gilydd" - Kate Hill-Trevor, Uchel Siryf Clwyd 2023/2024

cyCymraeg
Skip to content