Skip links
Cycling 4 All supporting the local community

Beicio i Bawb yn cefnogi’r gymuned leol diolch i arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Beicio i Bawb yn cefnogi’r gymuned leol diolch i arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Bydd Beicio i Bawb, elusen yn Wrecsam sy’n darparu’r gwasanaeth beicio pob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yn cynnal “Parêd Pŵer Pedal” yn ystod Wythnos y Beic 2024, 10–16 Mehefin 2024, diolch i arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.th – 16th thanks to funding from the UK Shared Prosperity Fund.

Cynhelir Parêd Pŵer Pedal – arddangosfa o feiciau addurnedig ar hyd llwybr drwy’r parc – yn ystod Wythnos y Beic, 10–18 Mehefin, ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. Grwpiau cymunedol lleol, elusennau, ysgolion, a busnesau fydd yn gyfrifol am addurno’r beiciau. Nod y parêd yw dod â’r gymuned ynghyd, ar droed ac ar feic, i fwynhau’r beiciau addurnedig gan wella eu lles a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Dyma gyfle perffaith i fod allan yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, i ddathlu a chefnogi creadigwrydd, a chysylltu â phobl eraill yn y gymuned.

Bydd Beicio i Bawb yn gweithio gyda’r elusennau Refurbs a Groundwork Gogledd Cymru i ddod o hyd i feiciau nad yw’n bosibl eu trwsio er mwyn eu defnyddio yn y parêd, gan olygu bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

An Orange Bicycle, Cycling 4 All

“Rydym yn edrych ymlaen i weld y gymuned leol yn dod ynghyd i fod yn greadigol ac addurno beic a fyddai wedi cael ei anfon i safle tirlenwi fel arall. Bydd Parêd Pŵer Pedal yn gyfle cyffrous i hyrwyddo’r angen i ailddefnyddio a mabwysiadu arferion cynaliadwy yn ein cymuned, ac yn gyfle i’r gymuned ddathlu a chefnogi creadigrwydd, bod allan yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol”. - Hanna Clarke, Arweinydd Prosiect Parêd Pŵer Pedal

Mae grwpiau cymunedol lleol, elusennau, ysgolion, a busnesau yn cael eu gwahodd i addurno beic, a gallant hefyd gynnwys neges ailddefnyddio a chynaliadwyedd os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Does dim tâl am gymryd rhan ac addurno beic, ond gall busnesau sy’n cymryd rhan gyfrannu at elusen Pŵer Pedal os ydynt yn dymuno.

Yn ogystal ag annog grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion, a busnesau i addurno beiciau, byddwn yn cynnal sawl gweithdy cymunedol lle gall pobl alw heibio a helpu i addurno beiciau ar gyfer y parêd.

  • Clwb Celf i’r Teulu Tŷ Pawb, Dydd Sadwrn 18 Mai, 10.00 am – 12.00 pm
  • Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Dydd Mawrth 28 Mai, 11.00 am – 2.00 pmth .
  • Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Dydd Iau 30 Mai, 11.00 am – 2.00 pm

Gweithdai eraill i’w cadarnhau.

I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut gallwch addurno beic, cysylltwch â Hanna ar 01978 757 524 / [email protected] ewch i www.cycling4all.org neu edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cynhelir Parêd Pŵer Pedal diolch i arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth gan Cadwyn Clwyd, AVOW a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

cyCymraeg
Skip to content