Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr yn eu cymunedau ar gyfer ein Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol estynedig. Bydd pwysau’n codi o ganlyniad i’r galw cynyddol a’r risg o ostyngiadau staff oherwydd hunan-ynysu. Mae’r tasgau a fydd yn agored i wirfoddolwyr yn debygol o fod yn ddibynnol ar ofynion lleol ac mewn perthynas â’r sefyllfa barhaus. Wrth i’r sefyllfa newid, bydd nifer o rolau y gallwch chi helpu gyda nhw. Cofrestrwch eich diddordeb ar wefan Gwirfoddoli-Cymru gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Rolau gwirfoddoli:
- Gyrwyr â’u cerbyd eu hunain – danfon eitemau, casglu a chludo staff.
- Arlwyo a choginio – coginio pryd o fwyd i gymydog oedrannus neu staff iechyd ategol.
- Gwarchod plant – helpu mewn lleoliadau gofal plant lleol, gwarchod plant ar gyfer cymydog sydd mewn gwaith ac ati.
- Gweinyddiaeth – ateb y ffôn a / mewnbwn chyfrifiadur, ac ati.
- Cwnsela Profedigaeth – Angen cymwysterau perthnasol.
I gofrestru i wirfoddoli, ewch i: https://bit.ly/2QgCtfd.